www.monmouthshire.gov.uk
Open in
urlscan Pro
109.169.81.140
Public Scan
URL:
https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/eich-preifatrwydd/43785-2/
Submission Tags: falconsandbox
Submission: On March 18 via api from US — Scanned from GB
Submission Tags: falconsandbox
Submission: On March 18 via api from US — Scanned from GB
Form analysis
1 forms found in the DOMGET https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/
<form role="search" method="get" class="search-form" action="https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/">
<label for="s" class="hidden">Search</label>
<input type="search" class="search-field col-xs-12" placeholder="Chwilio (e.e. Biniau)" value="" name="s" id="s">
<i class="fa fa-search" id="searchFormButton"></i>
</form>
Text Content
WE VALUE YOUR PRIVACY We and our partners store and/or access information on a device, such as cookies and process personal data, such as unique identifiers and standard information sent by a device for personalised ads and content, ad and content measurement, and audience insights, as well as to develop and improve products. With your permission we and our partners may use precise geolocation data and identification through device scanning. You may click to consent to our and our partners’ processing as described above. Alternatively you may click to refuse to consent or access more detailed information and change your preferences before consenting. Please note that some processing of your personal data may not require your consent, but you have a right to object to such processing. Your preferences will apply to this website only. You can change your preferences at any time by returning to this site or visit our privacy policy. DISAGREEMORE OPTIONSAGREE Skip to Main Content MONMOUTHSHIRE Search A-Y GwasanaethauEnglishHygyrchedd * Eich Cyngor * Gwasanaethau * Addysg * Gofal * Busnes a Swyddi * Pethau i’w Gwneud Mewngofnodi/Gofrestru Eich Preifatrwydd / Gwefan a Chwcis – Hysbysiad Preifatrwydd GWEFAN A CHWCIS – HYSBYSIAD PREIFATRWYDD Erthygl wedi ei diweddaru: 20th Hydref 2020 Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut y defnyddiwn yr wybodaeth a gasglwn amdanoch chi a’r gweithdrefnau sydd gennym ar waith i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae gennym ymrwymiad i sicrhau y caiff eich preifatrwydd ei ddiogelu. Dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych. Yr wybodaeth bersonol a gasglwn a sut y’i defnyddiwn Nid ydym yn casglu a chadw unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan yma, heblaw lle dewiswch roi gwybodaeth bersonol i ni yn wirfoddol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost neu drwy ddefnyddio ffurflen electronig ar y wefan, neu drwy holi am unrhyw un o’n gwasanaethau. Yn yr amgylchiadau hyn dim ond i roi’r wybodaeth neu wasanaeth y gofynnwyd amdanynt y defnyddir yr wybodaeth bersonol a gyflenwyd os na nodir dibenion ehangach yn y ffurflen y cyflenwir yr wybodaeth neu adeg casglu ar y wefan – ac os felly gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer unrhyw un o’r dibenion ehangach hyn. DATA YSTADEGOL Gallwn hefyd ddefnyddio gwybodaeth ac ystadegau cronnol ar gyfer monitro defnydd o’r wefan i’n helpu i ddatbygu’r wefan a’n gwasanaethau. Gallwn ddarparu gwybodaeth gronnol o’r fath i drydydd parti. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir eu defnyddio i wybod pwy ydych. FY SIR FYNWY Bydd Cyngor Sir Fynwy’n cofnodi eich data os ydych wedi gwneud cais am wasanaeth neu wybodaeth gennym. Diben gwneud hyn fydd prosesu eich cais. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn ein system Fy Sir Fynwy. Fel defnyddiwr, bydd Cyngor Sir Fynwy’n casglu eich data, er enghraifft e-bost a chyfeiriad cartref, os ydych yn dewis rhannu’r rhain gyda ni. Byddwn yn eu defnyddio i gysylltu â chi er mwyn eich diweddaru ar eich cais am wasanaeth ac i gysylltu â chi os oes angen. Bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel a bydd modd i staff, ein cyflenwyr a’n partneriaid, gan gynnwys cynghorau tref a chynghorau cymuned Sir Fynwy, neu ein contractwyr ei gweld a’i rhannu os yw hynny’n briodol. Mae hyn yn sicrhau y gellir cyfeirio eich pryderon i’r adran gywir o fewn y cyngor, neu i’r darparwr gwasanaeth perthnasol os yw’n bartner. Wrth gyflwyno eich data personol, rydych yn rhoi gwybod i ni eich bod yn cytuno gyda’r canlynol. * Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliad at ddibenion marchnata, ymchwil y farchnad na dibenion masnachol. Mae’n bosib y byddwn yn pasio eich gwybodaeth bersonol ymlaen os oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gydag adrannau eraill o fewn Cyngor Sir Fynwy at ddibenion cyfreithiol eraill. * Os nad ydych yn cytuno â’r datganiad hwn, ac nac ydych eisiau defnyddio’r gwasanaeth hwn mwyach gallwch ddadgofrestru. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’ch cyfrif >Fy Nghyfrif > Dadgofrestru fy nghyfrif neu drwy gysylltu â’n Canolfan Gyswllt. Gallwch barhau i gyflwyno adroddiadau yn ddi-enw; fodd bynnag, ni fydd modd i ni eich diweddaru ar gynnydd o ran eich cais. HYSBYSEBU Mae Rhwydwaith Hysbysebu’r Cyngor yn gyfrifol am gyflwyno hysbysebion ar wefan Cyngor Sir Fynwy. Gofynnir i chi neilltuo munud neu ddau i ddarllen eu polisi preifatrwydd sy’n cynnwys gwybodaeth ar gwcis a manylion sut i optio allan: http://www.counciladvertising.net/can-privacy-policy.html DATGELIAD Dim ond cyhyd ag sydd angen ar gyfer y diben y cafodd ei chasglu y byddwn yn cadw eich gwybodaeth. Ni chaiff gwybodaeth bersonol ei datgelu i drydydd parti os na nodir hynny ar dudalen y wefan a/neu ffurflen berthnasol adeg casglu’r wybodaeth neu fel sydd angen neu a ganiateir gan y gyfraith. DEFNYDDIO CWCIS Defnyddiwn gwcis ar y safle. Mae cwci yn ffeil testun sy’n dynodi eich cyfrifiadur i’n serfiwr. Nid yw cwcis ynddynt eu hunain yn dynodi’r defnyddiwr unigol, dim ond y cyfrifiadur a ddefnyddiwyd. Ni ddefnyddir cwcis i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol. Cewch gyfle i osod eich cyfrifiadur i dderbyn pob cwci, i’ch hysbysu pan gyhoeddir cwci neu i beidio derbyn cwcis ar unrhyw amser. Mae’r ffordd y gwnewch hyn yn dibynnu ar ba borwr gwe a ddefnyddiwch. Dylech gyfeirio at swyddogaeth help eich porwr. Os derbyniwch gwcis, gallant aros ar eich cyfrifiadur am flynyddoedd lawer, os nad ydych yn eu dileu. Dylid nodi y gall troi cwcis i ffwrdd gyfyngu eich defnydd o’n gwefan a gwasanaethau gwefan. Sut y diogelwn eich gwybodaeth Caiff yr holl wybodaeth bersonol a gesglir ar y wefan hon ei chofnodi mewn cronfa ddata ddiogel. Mae’n ymrwymiad ar ein holl gyflogeion a phroseswyr data sydd â mynediad i neu sy’n gysylltiedig gyda phrosesu gwybodaeth bersonol i barchu cyfrinachedd yr wybodaeth honno. Diogelwch E-bost Dylid nodi, os nad ydynt wedi’u hamgryptio, efallai nad yw negeseuon e-bost a anfonir drwy’r rhyngrwyd yn ddiogel a gallai rhywun arall eu rhyng-gipio a’u darllen. Gofynnir i chi gadw hyn mewn cof wrth benderfynu p’un ai i gynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif yn unrhyw negeseuon e-bost y bwriadwch eu hanfon. Eich cydsyniad Drwy gyflwyno eich gwybodaeth rydych yn cydsynio i’r wybodaeth honno gael ei defnyddio fel y nodir yn y polisi yma. Os ydym yn newid y polisi preifatrwydd byddwn yn eich diweddaru am y newidiadau ar y dudalen yma. Bydd parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn arwydd eich bod yn cytuno i unrhyw newidiadau o’r fath. Defnyddwyr 16 oed a iau Os ydych yn 16 oed neu iau, dylech gael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn rhoi gwybodaeth bersonol ar ein gwefan. Ni chaniateir i ddefnyddwyr roi gwybodaeth bersonol i ni os na chawsant y caniatâd hwn. Diogelu Data Byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Cysylltwch â’r Swyddfa Diogelu Data yn foi@monmouthshire.gov.uk os gwelwch yn dda os dymunwch gael mynediad i wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r wefan hon neu os oes gennych ymholiad neu gonsyrn parthed prosesu data personol. Dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch ofyn am gopi o’ch gwybodaeth a byddwn yn rhoi copi darllenadwy o’r wybodaeth bersonol a ddaliwn ac y mae gennych hawl iddi. Anfonir hyn atoch o fewn 40 diwrnod u’ch cais – er ein bod bron bob amser angen prawf o bwy ydych cyn cyflenwi’r wybodaeth (er mwyn lleihau’r risg o gyflenwi gwybodaeth i’r person anghywir) a gallwn ofyn i chi am fwy o wybodaeth i’n helpu i ganfod eich gwybodaeth bersonol. Gall fod yn rhaid i chi dalu ffi fechan cyn y caiff yr wybodaeth ei chyflenwi. Os ydych yn parhau’n anfodlon ar ôl codi mater am y polisi yma a/neu gais i gael mynediad i wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r safle, gallwch hefyd gysylltu â: Y Comisiynydd Gwybodaeth/The Information Commissioner Wycliffe House Water Lane Wilmslow Cheshire SK9 5AF Cyfeiriad: Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA CYSYLLTU Â NI Ffôn: 01633 644644 E-bost: contact@monmouthshire.gov.uk Polisi Preifatrwydd © Hawlfraint 2022 Cyngor Sir Fynwy Staff Login Icons made by Freepik from www.flaticon.com is licensed by CC 3.0 BY Dewiswch eich iaith os gwelwch yn dda Please select your language Croeso i Sir Fynwy Cymraeg Welcome to Monmouthshire English Unwaith y byddwch wedi dewis iaith, byddwn yn defnyddio cwcis i gofio ar gyfer y tro nesaf Once you've selected a language, we'll use cookies to remember for next time. Angen cymorth?