maes-t.com Open in urlscan Pro
147.143.185.200  Public Scan

URL: https://maes-t.com/
Submission: On December 20 via api from US — Scanned from GB

Form analysis 0 forms found in the DOM

Text Content

Maes-T
 * Cysylltu


MAES T

Creu a datblygu geiriaduron ac adnoddau terminolegol ar-lein



Mewngofnodi »


BETH YW MAES T?

 * rhyngwyneb creu a datblygu geiriaduron ac adnoddau terminolegol ar-lein
 * ffordd i derminolegwyr ac arbenigwyr pwnc gydweithio dros y we i safoni
   termau
 * technoleg creu cronfa ddata sy’n seiliedig ar safonau rhyngwladol ISO ar
   gategoreiddio data
 * lle i storio fersiynau meistr o eiriaduron electronig Cysgeir, y Porth Termau
   Cenedlaethol a chronfeydd geiriadurol a therminolegol eraill
 * adnodd i hwyluso cyhoeddi geiriaduron mewn gwahanol fformatiau, e.e. ar
   bapur, ac CD, ar y we, ar ffonau symudol


CAEL MYNEDIAD I MAES T

Os oes gennych broject geiriadura neu safoni termau yr hoffech ddefnyddio Maes T
i’w ddatblygu, cysylltwch â ni yma am ragor o wybodaeth.

Os ydych chi’n arbenigwr pwnc fyddai’n hoffi cynnig eich gwasanaeth i un o’n
projectau terminolegol, cliciwch yma i gysylltu â ni, gan nodi maes eich
arbenigedd.


CHWILIO AM DERMAU CYMRAEG?

Nid yw Maes T yn adnodd cyhoeddus er mwyn chwilio am dermau ar y we. I chwilio
am dermau Cymraeg safonol, defnyddiwch y Porth Termau Cenedlaethol sy’n cynnwys
casgliad helaeth o eiriaduron termau dwyieithog Cymraeg a Saesneg sy'n cael eu
cynhyrchu a'u diweddaru trwy Maes-T.



--------------------------------------------------------------------------------

Datblygwyd gan Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr

© 2024 - Prifysgol Bangor University